Share

Produced by:

SUT I … GREU PELI HADAU O BAPUR GWASTRAFF

Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn hanfodol i’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, gan roi bywyd i gynnyrch fel pys, tomatos a mefus. Ond mae’r creaduriaid bach rhyfeddol yma’n diflannu yn y DU. Un rheswm am hyn yw colli dolydd blodau gwyllt, y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw am fwyd.

Fe alli di fwydo gwenyn a phryfed peillio eraill ar dy ddarn o dir drwy blannu peli hadau blodau gwyllt – fe alli di eu plannu yn dy ardd hefyd neu mewn bocs ffenest. Maen nhw’n hawdd eu gwneud ac fe all unrhyw un gymryd rhan.

BETH FYDD EI ANGEN:

  • Papur gwastraff – mae hen bapurau newydd, hancesi papur a phapur wedi’i ailgylchu’n gweithio’n dda. Paid â defnyddio papur sgleiniog (fel y bwydlenni pizza sy’n dod drwy’r post).
  • Hadau blodau gwyllt brodorol: mae Glas yr Ŷd, Llygad-llo Mawr a Phabi yn gymysgedd da. Ymysg y mathau eraill y gallet ti eu defnyddio mae Lafant, Cribau San Ffraid, Ffacbys, Bysedd y Cŵn, Persli, Meillion Coch neu Drwyn y Llo.
  • Pinsied neu dri o bowdwr chilli (i gadw gwlithod draw) a sinamon (i stopio microbau niweidiol).
  • Dŵr.
  • Bowlen ar gyfer cymysgu’r peli hadau, a chadach a rhidyll i’w draenio nhw.

PETHAU I’W GWNEUD A PHEIDIO Â’U GWNEUD GYDA PHELI HADAU

Cofia …

  • Rhaid eu taflu nhw ar ddarn o bridd neu blanhigyn mewn pot.
  • Cofio eu dyfrio yn ystod cyfnodau sych.
  • Rhannu dy ddarn o dir ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #backyardnature

Paid â …

  • Taflu’r peli i ardaloedd wedi gordyfu.
  • Taflu’r peli yng nghefn gwlad.