Share

Produced by:

SUT I WNEUD GWESTY TRYCHFILOD ALLAN O DUN

Mae trychfilod o bob math dan fygythiad ac angen ein help ni! Wyt ti’n #CaruTrychfilod ac yn barod i wneud cartref iddyn nhw ar dy ddarn o dir? Beth am roi cynnig ar wneud gwesty trychfilod gan ddefnyddio tun? Mae’n weithgaredd perffaith i’w wneud gartref gan ddefnyddio pethau sydd o gwmpas y tŷ ac yn yr ardd. 🐞🐛

Y PETHAU FYDDI DI EU HANGEN

  • Hen dun         
  • Agorwr tuniau (gofyn i oedolyn dy helpu di gyda hyn)
  • Deunyddiau naturiol fel priciau a rhisgl 
  • Cardfwrdd
  • Llecyn cysgodol

CAMAU

  1. Rhaid cael hen dun, ei lanhau a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw ymylon miniog arno (gofyn i oedolyn dy helpu di gyda hyn)
  2. Casglu deunyddiau naturiol (fel priciau, rhisgl a chardfwrdd wedi’i rolio mewn tiwbiau)
  3. Torri dy ddeunyddiau i faint 
  4. Llenwi’r tun 
  5. Rhoi dy westy trychfilod mewn llecyn cysgodol ar dy ddarn o dir (dim mwy na metr uwch ben y ddaear)
  6. Cadw llygad ar y trychfilod i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gynnes a chlyd yn y gwesty!