Share

Produced by:

SUT I … GREU GWESTY TRYCHFILOD

O ddarparu gwasanaethau fel peillio a rheoli plâu i ddadelfennu dail sydd wedi syrthio a phren marw i mewn i’r pridd, mae trychfilod a phryfed eraill yn rhan bwysig iawn o’r ecosystem. 

Yn anffodus, mae‘r creaduriaid bach rhyfeddol yma’n dirywio yn y DU. Un ffordd i ti wneud dy ardd di’n hafan i drychfilod, gwenyn a phryfed eraill yw drwy greu gwesty trychfilod.

BETH FYDD EI ANGEN:

Deunyddiau

  • Priciau neu frigau sych – perffaith i fuchod coch cwta aeafgysgu ynddyn nhw.
  • Coesynnau gwag – fel hen ffyn bambŵ neu wellt papur newydd wedi’u rholio.
  • Blociau o bren – mae tyllau wedi’u drilio mewn blociau o bren yn safleoedd nythu da i wenyn unigol (gofyn i oedolyn helpu pan fyddi di’n drilio’r tyllau). 
  • Dail sych – mae’r rhain yn debyg i lawr y goedwig.  
  • Cardfwrdd rhychog – rholio hwn yn silindr ar gyfer yr adain siderog. 
  • Gwellt a gwair – mae gwahanol bryfed yn gallu cuddio yn y rhain a dod o hyd i safleoedd gaeafgysgu diogel. 
  • Rhisgl rhydd – mae chwilod, nadroedd cantroed, pryfed cop a phryfed lludw i gyd yn cuddio o dan bren a rhisgl.

Offer

  • Siswrn
  • Tâp sy’n dal dŵr neu linyn
  • Dril trydan (dewisol a gydag oedolyn i helpu)

For more instructions, click the download button below.